Job 25

Ymateb Bildad: Dydy dyn ddim yn gyfiawn

1A dyma Bildad o Shwach yn ymateb:

2“Mae gan Dduw awdurdod a gallu dychrynllyd,
ac mae'n sefydlu heddwch yn y nefoedd uchod.
3A ellir cyfrif ei fyddinoedd?
Ydy ei olau e ddim yn disgleirio ar bawb?
4Sut all person dynol fod yn iawn gyda Duw?
Sut all un sydd wedi ei eni o wraig fod yn lân?
5Os nad ydy'r lleuad yn ddisglair,
na'r sêr yn lân yn ei olwg,
6pa obaith sydd i berson dynol, sydd fel pryfyn,
creadur meidrol, sy'n ddim ond pryf genwair?”
Copyright information for CYM